Personal tools
You are here: Welsh / Cymraeg

Welsh / Cymraeg

Mae pum sefydliad yn rhan o Rwydwaith Mercator a phob un yn cyfrannu arbenigedd ar amlieithrwydd yn Ewrop.
Amcan y Rhwydwaith yw sicrhau lefelau uchel o gyfnewid o ran canlyniadau, gwybodaeth, profiad ac arfer gorau ym maes dysgu ieithoedd ac amrywiaeth ieithyddol.

Bydd y Rhwydwaith yn gyfeirbwynt i academyddion a myfyrwyr a hefyd yn cynnig gwybodaeth ar gyfer datblygu polisi cyhoeddus ar bob lefel o lywodraeth a gweinyddu.

Mae’n anelu at godi ymwybyddiaeth gyhoeddus o faterion ieithyddol ymysg siaradwyr ieithoedd lleiafrifol a gwladwriaethau llai yn ogystal ag ymysg pobl nad ydynt yn eu siarad. Mae hefyd am hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth a chydweithio.

Bydd ffocws y gwaith yn bennaf ar ymchwil academaidd ond rhoddir lle blaenllaw i waith sefydliadau eraill sydd â chyfrifoldeb am ddysgu gwahanol ieithoedd ac am hwyluso modelau newydd o wneud hyn.

Bydd cyfle i gyfathrebu rhwng y grwpiau targed hyn drwy gyfarfod wyneb-yn-wyneb mewn cynadleddau a gweithdai, yn ogystal â thrwy gyhoeddiadau a phresenoldeb ar-lein.


 

Powered by Plone, the Open Source Content Management System